top of page
IMG_9542.jpeg

Yr Hyn a Wnawn

Bydd y tri amcan isod yn ein helpu i gyflawni ei brif nod; i adfer bioamrywiaeth a bio-ddigonedd i'n tirweddau, ac i adfer cylchoedd carbon natural. 

​

Maent yn rhoi ffocws clir i ni ar gyfer llwybr ymlaen. 

1. Codi Arian, Prynu Tir ac Adfer Natur

Prif amcan Tir Natur yw i brynu neu brydlesu tir er mwyn adfer bywyd gwyllt ynddynt. Gobeithiwn, trwy wneud hyn, y byddwn yn ysbrydoli tirfeddianwyr eraill i ymgymryd â’r daith ailwylltio. Rydym yn deall maint yr argyfyngau yr ydym yn eu hwynebu, ac felly rydym yn ymwybodol bod angen i unrhyw effaith uniongyrchol a gawn wrth adfer natur gael effaith crychdonni ledled Cymru. Dyna pam mae’r amcan hwn yn cyd-fynd ag amcan tri, sef hyrwyddo egwyddorion ailwylltio – byddwn yn defnyddio ein prosiectau ein hunain i wneud hynny.  

​

Byddwn yn ceisio prynu o leiaf un darn o dir ar gyfer prosiect ail-wylltio (dros 200 erw), a pharseli llai o dir ar gyfer ail-wylltio ar raddfa fach. Yn hollbwysig, byddwn yn arddangos ein prosiect ail-wylltio fel fferm weithredol, gan ddangos rôl bwysig porwyr mawr a ffermio mewn adfer ecosystemau.

 

Boed yn dir fferm, yn goetir neu’n fawndiroedd diraddiedig – byddwn yn ceisio defnyddio egwyddorion ail-wylltio i adfer cymaint o’r ecosystem â phosibl, a chaniatáu i brosesau naturiol gymryd drosodd. 

​

Cyn ymgymryd ag unrhyw brosiect ail-wylltio neu ail-wylltio ar raddfa fach, byddwn yn cynnal arolygon sylfaenol manwl o fywyd gwyllt, llystyfiant a charbon pridd i sefydlu llinell sylfaen drylwyr o ddata, fel y gallwn fonitro’r gwelliannau a wnaed dros amser.  

​

Bydd 90% o'r arian y byddwn yn codi yn mynd tuag at yr amcan hwn.

_DSC5203.jpeg

2. Cysylltu Pobl a Phrosiectau yng Nghymru

Trwy ein Cymuned Cymru Wyllt, bydd Tir Natur yn cysylltu pobl a phrosiectau o bob rhan o Gymru. Bydd y prosiectau hyn nid yn unig yn cynnwys prosiectau ail-wylltio, ond ail-wylltio ar raddfa fach, ac unrhyw brosiect arall sy’n rhoi byd natur yn gyntaf. Byddwn yn defnyddio’r rhwydwaith hwn i gysylltu darnau o dir lle mae byd natur yn gwella er mwyn creu coridorau bywyd gwyllt.

 

O ffermydd i erddi, mentrau cymunedol i brosiectau ailgyflwyno, bydd y rhwydwaith yn fwrlwm o egni ac ymgysylltiad cadarnhaol. Bydd yn ganolbwynt ar gyfer adferiad byd natur yng Nghymru, ac ailwylltio yn arbennig. Y pwrpas yw annog pobl a allai fod yn betrusgar ynghylch ailwylltio i ddod ymlaen, a chysylltu pobl ag unigolion o'r un anian a rhannu syniadau.

 

Bydd pob prosiect yn cael ei restru ar ein map o Gymru, a bydd gwybodaeth a lluniau yn cael eu darparu. Wrth symud ymlaen, rydym eisiau clywed am sut mae pob prosiect yn datblygu, gydag aelodau yn monitro eu prosiectau eu hunain ar gyfer rhywogaethau sydd wedi dychwelyd, ac unrhyw bethau annisgwyl sy'n codi.

 

Mae adfer byd natur yn ymdrech hir-dymor, ond gydag effeithiau uniongyrchol ar fywyd gwyllt. Mae’r daith yn un o obaith a darganfyddiad, ac rydym am rannu hanesion y bobl yng Nghymru sydd wedi penderfynu gweithredu ar yr argyfyngau natur sy’n ein hwynebu fel gwlad.

 

Cliciwch yma i ymweld â 'Cymuned Cymru Wyllt'. 

shutterstock_1857510139.jpg

3. Hyrwyddo Egwyddorion Ailwylltio

Ein trydydd amcan yw hyrwyddo egwyddorion ailwylltio, ac yn enwedig mynd i'r afael â rhai o'r camsyniadau yn ei gylch. Rydym am newid canfyddiadau pobl o'r hyn sy'n bosibl ei gyflawni yn ein tirwedd o ran natur, a newid y naratif o 'amddiffyn yr hyn sydd ar ôl' i 'adfer ecosystemau ar raddfa fawr'.

 

Mae'r amcan hwn yn cyd-fynd â'n hamcan cyntaf o brynu tir i'w ail-wylltio. Byddwn yn defnyddio unrhyw dir i dynnu sylw pobl at y syniadau o adfer ecosystemau. Bydd ein holl dir yn dir mynediad agored, a byddwn yn mynd ati i annog pobl i ymweld i ddysgu mwy am ail-wylltio drostynt eu hunain.

 

Byddwn yn hysbysu pobl am y manteision niferus y mae ailwylltio yn eu cynnig i fioamrywiaeth a bio-ddigonedd, yn ogystal â’r amgylchedd ffisegol ac i gydnerthedd cymunedau a llesiant cymdeithas. Mae hon yn daith i ni ein hunain hefyd – rydym bob amser yn edrych i ddysgu mwy am sut mae natur yn gallu adfer a rheoli ei hun, ac rydym am ddod â phobl ar y daith hon.

 

Cliciwch yma i weld Egwyddorion a Chanlyniadau ailwylltio. 

​

Cliciwch yma i weld 'Beth yw Ailwylltio?' 

​

Cliciwch yma am ein Holi ac Ateb ar ailwylltio.

IMG_9538.jpeg

Credydau llun mewn trefn - Longhorns (Knepp Wildlands), Blodau Gwylltion (Shutterstock)

bottom of page