Dewch yn Aelod Sefydlu Cymunedol
Ymunwch â chymuned sy'n newid cwrs dirywiad byd natur yng Nghymru.
Mae Tir Natur gyda cyfle enfawr i brynu safle ail-wylltio blaenllaw yng Nghymru a fyddai'r prosiect adfer ecosystem mwyaf yn y wlad. Byddai bridiau hynafol o anifeiliaid pori Cymreig yn crwydro’n rhydd, fel y gwnaeth eu cyndeidiau gwyllt ar un adeg, ac yn siapio’r dirwedd, gan ganiatáu i fywyd gwyllt ffynnu ochr yn ochr â chymunedau ffyniannus, wrth hysbysu ac ysbrydoli gwaith adfer pellach a arweinir gan natur ar adeg o golli bioamrywiaeth digynsail. Yn fwy na dim, byddai’n cynnig gobaith i natur.
Mae ein Aelodau Sefydlu Cymunedol yn dod â grŵp o unigolion angerddol a hael at ei gilydd sydd am helpu Tir Natur i droi’r weledigaeth hon yn realiti.
Rydym yn ceisio rhoddion o £5,000 a £10,000 i gyfrannu tuag at ein costau prynu tir er mwyn diogelu’r tir hwn a gweld natur wyllt yn dychwelyd. Bydd rhoddion aelodau yn ariannu’r hyn sy’n cyfateb i tua 3 neu 6 erw yn y drefn honno ac fel diolch, rydym yn cynnig y cyfleoedd isod:
-
Byddwch yn derbyn gwahoddiad i seremoni agoriadol ar y tir gyda’n llysgennad, Iolo Williams. Cerddwch y wlad gyda ni a dychmygwch adferiad natur wyllt!
-
Byddwch yn derbyn print fframiog argraffiad cyfyngedig o'n llun gwych 'Gweledigaeth', gan yr artist Cymreig Katherine Jones.
-
Chi fydd y cyntaf i glywed newyddion am ein cynnydd tuag at sicrhau'r tir gyda diweddariadau unigryw.
-
Hoffem gydnabod eich cefnogaeth trwy gael eich enw ar ein gwefan (dewisol)
-
Ar ôl ei gwblhau, bydd cefnogwyr gwerth £10,000 hefyd yn derbyn map o'r safle, gan amlygu darn o dir y maent wedi'i 'noddi'.
Os hoffech chi gysylltu â ni i ddarganfod mwy, derbyn ein llyfryn Aelodau Sefydlol Cymunedol, neu i drafod anrheg fwy, e-bostiwch team@tirnatur.cymru .